
Lovespoons

Llwyau Caru
Llew Tudur
Y Gair




Mae'r llwy garu hon wedi'i cherfio â llaw wedi'i hysbrydoli gan yr Wythnos Fawr, gan ddefnyddio floriograffeg,iaith y blodau, a symbolaeth Gristnogol i bortreadu dyddiau olaf Iesu, ei groeshoeliad a'i Atgyfodiad. Mae wedi'i cherfio o un darn o bren bisgwydd, gyda chnau Ffrengig du a cheirios wedi'u hymgorffori yn y dyluniad, sydd hefyd yn un darn.
Mae blodyn y Dioddefaint yn cynrychioli croeshoeliad Iesu: mae ei goron yn symboleiddio coron y drain, tri stigma'r tri hoelen, pum anther pum clwyf Iesu, a deg petal y deg disgybl ffyddlon, ac eithrio Jwdas a Pedr.
Mae dwy ddeilen palmwydd yn cynrychioli Sul y Blodau.
Mae Lili'r Pasg, gyda'i blodyn siâp utgorn, yn cyhoeddi'r Atgyfodiad.
Mae gwenith a grawnwin yn symboleiddio bara a gwin y Swper Olaf.
Mae Lili'r Dyffryn yn cynrychioli dagrau'r Forwyn Fair wrth droed y Groes.
Mae'r rhosyn yn cynrychioli gwaed Iesu.
Mae coed tywyll a golau yn portreadu da a drwg.
Mae pili-pala yn cynrychioli trawsnewidiad, aileni, a bywyd tragwyddol trwy'r Atgyfodiad.